Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 20 Mai 2015

 

 

 

Amser:

09.00 - 12.45

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/2956

 

 

Cofnodion Cryno:

MeetingTitle

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Christine Chapman AC (Cadeirydd)

Peter Black AC

Alun Davies AC

Jocelyn Davies AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Mark Isherwood AC

Gwyn R Price AC

John Griffiths AC

Rhodri Glyn Thomas AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Justin Bates, Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Simon White, Llywodraeth Cymru

Neil Buffin, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Sarah Beasley (Clerc)

Claire Morris (Ail Clerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

David Smith (Cynghorwr Arbenigol)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

 

 

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC; dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.3.      Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Gwnaeth Rhodri Glyn Thomas AC ddatganiad o fuddiant fel tenant yn y sector rhentu preifat.

 

2   Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 10 - Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Justin Bates, Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai 

3   Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 11 - Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Simon White, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

·         Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

3.2 Hoffai’r Pwyllgor ddeall y tybiaethau sy’n sail i’r ffigurau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth hon. 

 

 

4   Papurau i’w nodi

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

6   Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 10 ac 11 ac ystyried y prif themâu

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn hon, a bu hefyd yn ystyried y prif themâu sydd wedi codi wrth iddo graffu ar y Bil.

 

7   Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru, Elfen 1: ystyried yr adroddiad drafft

7.1 Ni chyrhaeddodd y Pwyllgor yr eitem hon. Bydd y Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar ôl toriad yr hanner tymor.